Mandinka: Sinéad O'Connor
![](https://static.wixstatic.com/media/f58794_1c3e2319f8a34616b04b7007c2900ca5~mv2.png/v1/fill/w_484,h_403,al_c,q_85,enc_auto/f58794_1c3e2319f8a34616b04b7007c2900ca5~mv2.png)
Yn sgrolio trwy TikTok dechreuais wylio clip am Sinéad O’Connor, roedd ei chân Mandinka yn chwarae yn y cefndir ac o’r eiliad hwnna oni’n ffan. Mae’r gitâr drydanol ynghyd â’r drymiau pync clasurol yn cyflwyno’r gân mewn ffordd fythgofiadwy. Mae llais Sinéad yn canu ar ben hyn mewn ffordd bwerus heb straen fel bod hi eisoes di gwybod y cân yma.
O’r dechrau mae’n amlwg bod ganddi hi lais anghredadwy ac mae hyn wedi ei phario gyda’r rhan offerynnol pync yn denu chi i glywed gweddill y cân. Fel bod y cân yn arwain at y cytgan mae llais hi a'r sŵn offerynnol yn adeiladu ac yn cryfhau, tan bod cytgan herfeiddiol yn ffrwydro, cytgan sy'n gofyn y cwestiwn pwy ydy Mandinka a pham ydy hyn yn mor bwysig?
Mae'r ffaith bod O'Connor yn ailadrodd "I do know Mandinka" yn teimlo'n bwrpasol, hwn yw sylfaen y cân ac yn teimlo fel sylfaen y llais hefyd. I mi Mandinka yw gwreiddiau’r llais, y lle a’r teimlad sy’n gartref iddyn nhw, does dim’ ots be sy'n mynd yn anghywir ym mywyd y llais gan bod nhw wastad yn gallu tynnu cryfder o Mandinka.
Mae'r dehongliad yma ynghyd â'r gitâr a chôr o leisiau yn y cefndir yn adio i naws hiraethus y cân. Mae'n teimlo'n gyfarwydd, fel bod chi 'di clywed o o'r blaen yn chwarae mewn cyfres fel Derry Girls. Mae’n ymgorffori’n berffaith y teimlad ifanc ac annistrywiol a feistrolodd bandiau cymdogion fel The Undertones a Stiff Little Fingers.
Ar y cyfan mae’n anthem pync o wrthwynebiad. Mae gan O’Connor y graen yna yn ei lais, mae’n canu o le o brofiad a phoen a dachi’n gadael gan wybod mai cân o wrthwynebiad yw hwn sydd wedi dod yn syth o’i henaid.
Comments