top of page

Crynhoi’r Newyddion Wythnosol

Updated: Mar 19, 2024

12/02/23-18/02/23

Mae’r newyddion yn fy nghyffro i lawer gan ei bod yn digwydd yn gyflym ac yn newid trwy’r adeg, ond yn ein byd di-stop mae’n anodd cadw i fyny gyda phopeth. Meddyliais basau’n syniad dda i grynhoi'r straeon mwyaf perthnasol o’r wythnos er mwyn i fi fy hunan a phobl eraill cael syniad gwell o be sy’n digwydd o bedwar ban y byd. Pob Dydd Sul am 5 o’r gloch bydd crynodeb o newyddion yr wythnos ar gael trwy gyfrwng yr iaith Saesneg ac un iaith arrall. Gad i ni weld be ddigwyddodd wythnos yma…

 

1.     Methiant dau is-etholiad

Dangosodd canlyniadau dau is-etholiad lleol yn Wellingborough a Kingswood methiant mawr o ran Plaid Ceidwadwyr Rishi Sunak. Enillodd Plaid Llafur mwyafrifoedd o 11,200 a 18,540 yn yr etholaethau a ystyrid yn flaenorol fel seddau Ceidwadol diogel. Cafodd ymgeiswyr llafur Ms Kitchen a Mr Egan llawer i ddathlu ar ôl i ffigurau amlygu cafodd pleidleiswyr newid barn o 28% tuag at Lafur yn Wellingborough, yr ail mwyaf newid ers yr Ail Rhyfel Byd.

Dywedodd Mr Sunak bod “is-etholiadau yn canol y tymor wastad yn anodd” a rhoddodd sicrwydd i’r cyhoedd nad oedd y methiant yn adlewyrchu sut bydd y Ceidwadwyr yn perfformio yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Anghytunodd arweinydd Plaid Llafur Sir Keir Starmer a dywedodd bod llwyddiant Llafur yn sefyll allan fel arwydd clir “bod pobl yn bloeddio am newid”. Er hyn, cyfaddodd bod “dal gwaith i wneud” ar gyfer Plaid Llafur.

 

2.     Marwolaeth Alexei Navalny

Yn ôl awdurdodau Rwseg bu farw gwrthwynebr Rwsia Alexei Navalny yn y carchar ar ôl yn ôl pob sôn “teimlo’n sâl” a syrthio’n anymwybodol ar Ddydd Gwener. Mae dal angen cadarnhau ei marwolaeth gyda’i lefarydd yn honni ar X (Twitter) “mae’r Gwasanaeth Cosb Ffederal yn lledaenu newyddion am farwolaeth Alexei Navalny”.

Er hyn, mae llifoedd o bobl wedi anfon cydymdeimladau nhw ar lein gan cynnwys gwleidyddion Ewropeaidd, Gweinidiogion tramor a Llywydd Ffrangeg Emmanuel Macron a rhannodd ei dristwch a’i ddicter mewn post ar X a dwedodd “mae ysbrydau rhydd yn… cael eu condemnio i farwolaeth. Mae fy meddyliau yn mynd allawn i’w deulu, a’r pobl Rwseg.”

Roedd Alexei Navalny yn un o beirniadau mwyaf Putin. Am mwy na ddegawd datguddiodd llygredd tu ôl pwer Rwsia trwy ei ymchwiliadau ar lein a enillwyd degau o filiynau o views. Roedd o’n ymgyrchydd carismatig a cafodd ei dethol i redeg ar gyfer llywyddiaeth yn 2018 ar ôl sefydlu rhwydwaith o ymgyrhhoedd rhanbarthol, ond cafodd ei gwahardd o’r pleidlais ar ôl arwain protestiadau yn erbyn Putin ar draws Rwsia. Yn 2020 cafodd Navalny ei wenwyno gan asiant nerf a cafodd ei drin tramor cyn dychwelyd i’w arest yn Rwsia lle arhosodd yn y carchar.

Mae’r UN wedi galw am ymchwiliad annibynnol i mewn i’w marwolaeth ar ôl iddynt codi pryderon am ei garchariad a oedd yn “edrych yn mympwyol”. Yr unig ffordd i gadarnhau ei farwolaeth a’r amgylchiadau tu gwmpas hyn yw trwy “ymchwiliad diduedd, trylwyr a thryloyw”.

 

3.     Tywysog Harri yn gobeithio bydd salwch y Brenin yn dod a’r teulu’n agosach

Ar ôl cafodd Brenin Chaarles II diagnosis cancr neidiodd Dug Sussex “ar aweryn i weld o cyn gynted a phosib”. Ymwelodd Harri ä’r Brenin yn Clarence House dim ond un diwrnod ar ôl i’r diagnosis cael ei gwybod yn cyhoeddus. Dywedodd y ddug bod o’n “ddiolchgar” am yr amser treuliodd gyda’i dad yn ystod ei ymweliad byr. Pan cafodd ei gofyn os basau salwch y Brenin yn dod a’r teulu’n agosach dywedodd “dwi’n meddwl bod unrhyw salwch yn dod a theuluoedd at ei gilydd… mae hwnna’n gwneud i mi’n hapus”.

Mae’r Brenin wedi oedi pob dyledswydd gyhoeddus tra bod o’n cael triniaeth, bydd aelodau eraill yn cymryd ei ddyletswydd ar gyfer rhai digwyddiadau. Ar gyfer Tywysog Harri bydd o’n dychwelyd i’r DU cyn bo hir i weld mwy o’i deulu “mor gymaint a bosib”.

 

4.     Dechrau Dirwasgiad y DU

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod economi yr DU wedi syrthio mewn i ddirwasgiad ar ôl i bobl gwario llai, streiciau meddygon a cwymp mewn preseboldeb yn yr ysgol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datgelu bod CMC (GDP) wedi syrthio’n mwy na disgwyliwyd i 0.3% rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2023, yn dilyn cwymb heb ei ddiwygio 0 0.1% yn y chwarter blenorol. Mae’r ffigyrau yma yn cwestiynnu’r adduned creodd Rishi Sunak mis Ionawr diwethaf lle gaddodd i dyfu’r economi erbyn diwedd y flwyddyn, ond y ffaith ydy bod economi’r DU wedi profi’r gorchwyneb

Nid yw’r sialensau economic yn ecsgliwsif i’r DU; llwyddodd yr UE i ddianc o’r dirwasgiad o drwch blewyn, ac mae Siapan yn cydnabod ail charter yn olynol o grebachu economaidd.

Mewn termau economeg mae o born yn amherthnasol os wnaeth economi’r DU grebach neu ddangos twf bychan erbyn diwedd 2023. Y matter hollbwysig yw’r ffaith bof economi’r DU wedi bod yn gweithredu’n barhaus ar lefel is-optimaidd am gyfnod estynedig. Wrth adlewyrchu ar y gorffennol mae’n clir bod safonau byw wedi gweld bron i ddim gwelliant dros y 15 mlynedd diwethaf. Dyma’r heriau sydd angen sylw gan ein harweinwyr gwleidyddol. Ond, wrth ymgynghori ag economegwyr, mae nifer sylweddol yn mynegi ansicrwydd ynghylch a oes gan y blaid Lafur yr atebion sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion hyn.

7 views0 comments

Recent Posts

See All
Cân 'wan

Cân 'wan

Comments


©2023 by Eleri's Blog. Proudly created with Wix.com

bottom of page